Aboubacar Konate

Aboubacar Konate profile picture with soft blue lightingDaw Abou yn wreiddiol o brifddinas Burkino Faso, Ouagadougou, ac mae’n perthyn i bobloedd Mandingue Gorllewin Affrica. Yn aml-offerynnwr (doundoun, djembe, ngoni, gitâr, balaffon), er mai ei hoff offeryn yw’r doundoun. Cafodd ei eni i deulu griot ar ochr ei fam (Diabate) a dechreuodd chwarae fel bachgen bach. O saith oed roedd yn perfformio trwy chwarae mewn priodasau a seremonïau eraill. Mae wedi teithio’n helaeth fel artist yn perfformio mewn gwyliau ar draws Ewrop gan gynnwys y Swistir, Denmarc, Ffrainc, yr Eidal, yr Almaen, a’r Iseldiroedd gyda bandiau amrywiol gan gynnwys grŵp sy’n defnyddio offerynnau sothach a grŵp jazz.

Mae Abou wedi byw yn y DU ers pedair blynedd ac ar hyn o bryd mae’n addysgu’n rheolaidd mewn pum ysgol, ac mae hefyd yn cyflwyno gweithdai gyda Drum Cafe. Yn ddiweddar mae wedi perfformio fel rhan o gynhyrchiad Hamlet gan y Royal Shakespeare Company ac mae’n perfformio fel aelod rheolaidd o’r grŵp ymasiad Affro-jazz Balimaya Project, grŵp mwy traddodiadol Bantu Arts, a hefyd The Successors of the Mandingue All Stars.