Cerddoriaeth a Dawns Beirdd Gorllewin Affrica

Ymasiadau Affro-Cymraeg Mandingue

Mae’r Successors of the Mandingue yn dod â phrofiad cerddoriaeth ryngweithiol Affricanaidd i chi, a chyfnewid diwylliannol o offerynnau taro, cerddoriaeth, canu, adrodd straeon a dawns.

Rydym yn adeiladu pontydd rhwng diwylliannau cerddorol ac yn dod â phobl, artistiaid, a’u syniadau ynghyd. Wedi’i leoli yng Nghaerdydd, mae dylanwadau ac arfer artistig y cwmni wedi’u gwreiddio yn nhraddodiadau dilys Gorllewin Affrica.

Mae tri phrif linyn i’n gwaith: 1) perfformiad artistig proffesiynol, 2) prosiectau cydweithredu ac 3) addysgu trwy weithdai ac ymgysylltu â’r gymuned.

Mae ein cynnig yn amrywio o addysg ragarweiniol mewn cerddoriaeth a diwylliant Gorllewin Affrica djembe a balafon, hyd at berfformiadau prif lwyfan, gŵyl, a theithiau.

Latest posts

Digwyddiadau