Gweledigaeth, Cenhadaeth, a Gwerthoedd

GWELEDIGAETH

Parch cyfartal, gwerthfawrogiad a rhannu llawen o ddiwylliannau byd-eang, dynoliaeth a threftadaeth.

CENHADAETH

Adeiladu Pontydd

Wedi’i ysbrydoli gan ddiwylliant a thraddodiadau dilys Griot Gorllewin Affrica; rydym yn ceisio adeiladu pontydd rhwng Cymru a Gorllewin Affrica (a thu hwnt), trwy weithio gydag artistiaid lleol, cenedlaethol a rhyngwladol i rannu a gwerthfawrogi gwahanol etifeddiaethau a diwylliannau cerddorol.

Torri rhwystrau

Rydym yn ceisio galluogi gwell dealltwriaeth drawsddiwylliannol trwy gydweithrediadau artistig ffres ac addysg gyfranogol – gan dorri rhwystrau i fynediad, cyfleoedd artistig prif ffrwd, a chyflogaeth a chyfleoedd creadigol.

Codi’r bar

Sicrhau a chynnal safonau proffesiynol o ansawdd uchel ar draws ein holl waith ar gyfer artistiaid, cyfranogwyr a chynulleidfaoedd.

GWERTHOEDD

Rydym yn ymfalchïo yn ein henw da proffesiynol, ein gwaith o ansawdd uchel ac am fod bob amser:

  • Yn croesawu
  • Ddiffuant
  • Cynhwysol
  • Moesegol
  • Dan arweiniad artistiaid
  • Anturus