Ibibio Sound Machine

Gyda’r canwr o Nigeria, Eno Williams, mae Ibibio Sound Machine yn wrthdrawiad 8 darn o elfennau Affricanaidd ac electronig sydd wedi’u hysbrydoli’n gyfartal gan oes aur ffync, disgo ac electro post-pync Gorllewin Affrica o’r 70au a post-pync modern sy’n creu eu sain unigryw. Gyda geiriau yn Saesneg ac yn yr iaith Ibibio o dde-ddwyrain Nigeria, mae ysbrydoliaeth Williams ar gyfer ei chyfansoddi caneuon yn seiliedig ar straeon o’i magwraeth yn Nigeria. Maent wedi cyrraedd llwyfannau ar draws y byd, gan gynnwys Glastonbury, Womadelaide 2024 a Later… With Jools Holland.

Mae’r gobaith, llawenydd, a rhywioldeb cerddoriaeth y band dal yn bodoli yn eu halbwm newydd Pull The Rope, ond, gan fireinio ymhellach steil edgy eu halbwm clodwiw 2022 Electricity, mae’r cysylltiad y maent yn bwriadu ei feithrin wedi symud lleoliadau, o fywiogrwydd heulog gwyliau awyr-agored i glwb dawnsio llawn chwys. Mae eu sain yn obaith mewn tywyllwch, gwynfyd er gwaethaf diflastod. Unwaith eto, mae Ibibio Sound Machine yma i ddarparu’r trac sain i noson orau eich bywyd, ac i fyd gwell i ddod.

“Vibrant Afro funk hits the heights” The Guardian