N’famady Kouyaté

N'famady in Camden

Mae N’famady Kouyaté wedi bod yn adeiladu cynulleidfa Brydeinig frwdfrydig gyda’i arddull cerddorol unigryw ers iddo symud i Gymru o Gini yn 2019. Ei brif offeryn yw’r balafon – seiloffon pren traddodiadol, cysegredig i ddiwylliant Gorllewin Affrica a’i dreftadaeth deuluol o’r griot /djeli, ac mae’n arwain band indie/roc. Mae cerddoriaeth N’famady yn gyfuniad o’i dreftadaeth Gorllewin Affrica a dylanwadau cerddorol gorllewinol gan rai fel y Super Furry Animals, The Flaming Lips a 9Bach. Mae ei berfformiadau’n creu awyrgylch bywiog a llawen sy’n cael ei danio gan ei garisma a’i swyn ar y llwyfan, yn newid rhwng y balafon a’r gitâr drwy gydol y sioe yn feistrolgar o rwydd. Ers dod i’r DU, mae N’famady wedi bod yn chwarae ac yn teithio’n helaeth, uchafbwyntiau oedd sioeau gwyliau The Great Escape, Celtic Connections, SXSW, prif lwyfan Latitude a llawer mwy. Yn 2023 enillodd y Glastonbury Emerging Talent Competition 2023, gan ddangos ymhellach ddyfodol disglair y seren newydd hon.

N'famady live performance photo singing with balafon

Hefyd N’famady Kouyaté yw ein cyfarwyddwr artistig a phrif gerddor egnïol o Gini, Gorllewin Affrica. Tarddiad Malinké, wedi’i eni i deulu griot / djeli; lle mae gan y djeli gyfrifoldeb etifeddol am warchod diwylliant traddodiadol Mandingue trwy rannu rhythmau, caneuon a straeon hynafol. Mae N’famady yn feistr balafonydd, canwr, offerynnwr taro, aml-offerynnwr, a sylfaenydd Les Héritiers du Mandingue (grŵp ymasiad traddodiadol Mandingue-modern yn Guinea). Mae N’famady bellach yn preswylio yng Nghaerdydd, Cymru ac wedi bod yn gweithio ar nifer o brosiectau cerdd unigol a chydweithredol, yn ogystal ag arwain gweithdai cerdd cyfranogol.

Ar gyfer perfformiadau traddodiadol a gweithdai gellir archebu N’famady drwy The Successors of the Mandingue uchod, ond ar gyfer ei fand ymasiad indi/roc modern ewch i nfamady.com am ragor o wybodaeth.