Rydym yn Recriwtio!

Dathliad Cymru-Affrica
Swydd Prosiect Newydd – Swyddog Datblygu/Rheolwr Prosiect
Cefndir
Yn 2021, cynhaliodd The Successors of the Mandingue (TSOTM) brosiect cyfnod datblygu Cysylltu a Ffynnu ar y cyd gyda’r amcanion yma fel rhan o’n cytundeb partneriaeth:
- creu cyfleoedd cyflogaeth ystyrlon i artistiaid Affricanaidd
- dod ag artistiaid gwahanol at ei gilydd i gydweithio ar brosiectau cerddoriaeth / dawns sy’n galluogi gwell dealltwriaeth drawsddiwylliannol
- hwyluso addysg a chyfnewid diwylliannol trwy ymgysylltu â’r gymuned.
Ar ôl ymchwil helaeth a gwaith peilot (gweler Plannu’r Hadau) cawsom ein tîm partneriaeth (yn cynnwys TSOTM, Neuadd Ogwen, Cymdeithas Celfyddydau a Diwylliannol Butetown (BACA), a Rahim El Habachi) ail grant Cysylltu a Ffynnui barhau â’r gwaith uchod gyda’r amcan penodol ychwanegol ar gyfer y cyfnod Ebrill 2022 – Ebrill 2024:
Datblygu gŵyl gynaliadwy Cymru-Affrica sy’n tyfu flwyddyn ar ôl blwyddyn ac sy’n
- yn darparu cyfleoedd ystyrlon i artistiaid o darddiad Affricanaidd yng Nghymru
- yn arddangos celfyddydau Affricanaidd ledled Cymru
- ymgysylltu mewn cymunedau trwy weithgareddau celfyddydau cyfranogol
- yn datblygu cydweithrediadau a chyfuniadau newydd ac arloesol yn lleol
- yn hyrwyddo cynhwysiant a chynrychiolaeth
- yn cyrraedd a datblygu cynulleidfaoedd newydd
Ceisiadau
Er mwyn symud y gwaith hwn yn ei flaen rydym yn chwilio am swyddog datblygu/rheolwr prosiect penodedig (gweler y disgrifiad swydd amlinellol isod) ac rydym yn gwahodd datganiadau o ddiddordeb. Mae’r swydd yn rhan amser (dau ddiwrnod yr wythnos), yn hyblyg, yn seiliedig yn y cartref, a gellir ei chontractio naill ai’n llawrydd neu’n gyflogedig. Rydym hefyd yn cynnig cyfle i drafod y swydd yn anffurfiol gydag unrhyw un sydd â diddordeb mewn ymgeisio. Gwneir cais trwy ddatganiadau o ddiddordeb (a all fod yn gyflwyniadau ysgrifenedig, llafar neu fideo), a anfonir i The Successors of the Mandingue trwy: admin@successors.co.uk erbyn 22/05/22 yn amlinellu beth sy’n eich denu i’r rôl ac unrhyw brofiad blaenorol perthnasol. Ar hyn o bryd mae cyfweliadau wedi’u hamserlennu ar gyfer 27/05/22.
Dathliad Cymru-Affrica
Swyddog Datblygu/Rheolwr Prosiect – Disgrifiad Swydd
- Cydlynu, hwyluso, mynychu, ac adrodd i gyfarfodydd prosiect misol
- Cynllunio digwyddiadau’r prosiect mewn partneriaeth â chynrychiolydd(wyr) Neuadd Ogwen a BACA
- Asesu a monitro risgiau
- Datblygu cysylltiadau â grwpiau a phartneriaid ledled Cymru
- Nodi nawdd lleol a chenedlaethol
- Nodi a gwneud cais i ystod o gyrff ariannu (e.e.. cynlluniau grant digwyddiadau mawr, ffrydiau ariannu lleol ac ati) i ategu’r prosiect hwn ac i sicrhau dyfodol yr ŵyl wrth symud ymlaen.
- Marchnata a hyrwyddo
- Datblygu rhaglenni ar gyfer ymweliad Troupe Djeliguinet â Chymru ym mis Awst 2022
- Rheolaeth prosiect cyffredinol ar gyfer digwyddiad Dathliad Cymru-Affrica 2023
- Gweithio gyda hyrwyddwyr a lleoliadau ledled Cymru i greu cylchdaith/rhwydwaith Cymru gyfan
- Llunio (gyda mewnbwn gan yr holl bartneriaid) strategaeth datblygu gynaliadwy ôl-brosiect ar gyfer Dathliad Cymru-Affrica
Os oes gennych unrhyw gwestiynau, mae croeso i chi gysylltu â The Successors of the Mandingue.
07806771275
