Cyhoeddiad artist cyntaf ar gyfer Gŵyl Dathliad Cymru-Affrica

Rydym mor gyffrous i gyhoeddi ein hartist cyntaf ar gyfer Dathliad Cymru-Affrica, y cerddor enwog Bassekou Kouyate a’i band Ngoni Ba (Mali). Mae Bassekou Kouyaté yn un o wir feistri’r ngoni, sef liwt draddodiadol hynafol a geir ledled Gorllewin Affrica, ac sy’n cael ei barchu fel un o brif artistiaid byd-eang Affrica.
Mae Bassekou yn cael ei gydnabod fel arloeswr ac yn un o gadarnleoedd cerddoriaeth draddodiadol Malian, ac mae wedi cydweithio â phobl fel Ali Farka Touré, Toumani Diabate, Taj Mahal ac yn 2016 ymunodd â thaith Africa Express ynghyd â Damon Albarn a Paul Weller. Roedd albwm diweddar Bassekou, ‘Miri’ (breuddwyd yn iaith Bamana) ar frig Siartiau Cerddoriaeth y Byd Ewrop ym mis Chwefror 2019 ac enillodd y bleidlais Albwm Gorau’r Flwyddyn gan gylchgrawn Songlines.
Byddant yn perfformio ar y ddau benwythnos (Bethesda a Chaerdydd).
Bydd dolenni gwerthu tocynnau yn fyw cyn bo hir!

 

 

 

Bassekou Kouyate & Ngoni Ba holding Malian instrument the ngoni (lute)
Dathliad Cymru-Affrica artist announcement- Bassekou Kouyate & Ngoni Ba

 

 

 

Dathliad banner