Launch of Successors’ Artist Roster

Rydyn ni’n gyffrous iawn i gyhoeddi lansiad ein Rhestr Artistiaid newydd, sy’n rhestru artistiaid a grwpiau rydyn ni’n gweithio gydag yn rheolaidd yma yn The Successors of the Mandingue. Dilynwch y ddolen i’n cyfeiriadur newydd ac fe welwch fod gan bob artist a grŵp luniau proffil, disgrifiad, a fideo(iau) o’u gwaith naill ai mewn cerddoriaeth neu ddawns. Gellir bwcio mwyafrif yr artistiaid ar gyfer perfformiadau a/neu weithdai. Mae gan bob rhestriad ffurflen archebu sy’n manylu’r holl bethau y mae angen i ni eu gwybod er mwyn darparu ar gyfer digwyddiadau. Ewch i gael cip olwg! Mae diolch enfawr yn mynd i Gyngor Celfyddydau Cymru am ein cefnogi i sefydlu hyn.

https://successorsotm.wpenginepowered.com/book-us/artist-roster/