Newyddion Cyffrous!!!
Eisiau perfformio gyda band? Mae gennym ni newyddion cyffrous i chi, gyda chyfle anhygoel i brofi perfformio gyda band MAWR newydd y Successors Collective.
Rydym yn galw ar gantorion, rapwyr a cherddorion i ddod i jamio a rhoi cynnig ar y Successors Collective.
Cysyniad band newydd yw Successors Collective lle rydym yn dod ag artistiaid ynghyd i greu sain ffync jazz Affro-Gymreig newydd gyda naws hip hop wedi’u hychwanegu yn y gymysgedd.
Rydyn ni’n lansio gyda’n gigs cyntaf yn nigwyddiadau gŵyl Dathliad Cymru-Affrica ym mis Awst a Thachwedd ar draws dri safle: Trefdraeth yn Sir Benfro, Caerdydd, a Bethesda.
Yn yr amser hwn cyn yr ŵyl, byddwn yn cynnal sesiynau jam wythnosol gan ddod a gwahanol gerddorion ynghyd i rannu eu hysbryd a chariad dros gerddoriaeth ac i ffurfio’r Collective.
Y syniad yw cael cronfa o artistiaid sy’n gallu cyfnewid i mewn ac allan rhwng gigs ac yn ystod yr un set, gan greu naws y Collective.
Bydd Successors Collective yn dod yn FAND TY a ffurfiwyd ac a ddatblygir trwy’r sesiynau jam wythnosol!
Dyma fanylion cyswllt unrhyw un sydd â diddordeb:
WhatsApp: 07840160155 neu e-bost: nfamady@successors.co.uk