Gŵyl Dathliad Cymru-Affrica 2023

Dathliad Cymru-Affrica logo with two prominent Cs, Cymru C is filled with an African print type design, the Affrica C is filled with a Welsh blanket type design

Dathliad Cymru-Affrica – un ŵyl, dau ddigwyddiad!Reading/Leeds mewn arddull Affro-Gymreig!

Cynhaliwyd ein blwyddyn gyntaf o ŵyl unigol Dathliad Cymru-Affrica yn Neuadd Ogwen, Bethesda 1-3 Mehefin a Chanolfan Mileniwm Cymru, Caerdydd 10-11 Mehefin 2023.

Fe ddechreuon ni’r ŵyl ym Methesda yn Neuadd Ogwen, dros dridiau ar ddechrau mis Mehefin drwy arddangos artistiaid treftadaeth Affricanaidd sy’n dod i’r amlwg yng Nghymru, artistiaid rhyngwladol o Mali, Swdan, Gweriniaeth Ddemocrataidd y Congo a De Affrica, perfformiad gan grŵp plant Cymdeithas Gogledd Cymru Affrica, arddangosfa celfyddydau gweledol, a hefyd artistiaid Affricanaidd o bob rhan o’r DU.

Bethesda line-up poster

Gweld rhai o’r uchafbwyntiau gwych yn y fideo nesaf.

Cân y trac sain: The Successors of the Mandingue All Stars- Saliya.

Artistiaid yn nhrefn eu hymddangosiad: The Successors of the Mandingue All Stars feat. Eve Goodman, Adjua, Oumar Almamy Camara, Afro Cluster, Agmar Band, Binta Susso, BCUC, Dafydd Iwan & Ali Goolyad, Hanisha Solomon, Blank Face, Rahim El Habachi, Bassekou Kouyate & Ngoni Ba, Kanda Bongo Man, Cymdeithas Affrica Gogledd Cymru, Rasha, Suntou Susso.

Y penwythnos canlynol fe wnaethom ni wened yr holl beth eto ond ar raddfa fwy yng nghanolfan Mileniwm Cymru yng Nghaerdydd, gyda thri llwyfan yn arddangos sefydliadau cymunedol celfyddydau Affricanaidd lleol, gweithdai, Sioe Ffasiwn Affricanaidd, artistiaid newydd, ac wrth gwrs y prif lwyfan.

Cardiff festival line-up poster

Dyma rai o’r uchafbwyntiau gan Fizzi a Tim Tyson Short.

Cân y trac sain: The Successors of the Mandingue All Stars feat. Eve Goodman – ‘Da Ni Yma Cymru, Da Ni Yma Affrica’

Artistiaid yn nhrefn eu hymddangosiad: Blank Face, Hanisha Solomon, Agmar Band, The Successors of the Mandingue All Stars feat. Eve Goodman, Adi Detemo (gweithdy dawns Ethiopia), Liz Ikamba, Bassekou Kouyate & Ngoni Ba, Nawaris (Grŵp perfformio celfyddydau plant Swdan), AFJ Cardiff, Bantu Arts, Oloye, Afro Cluster, Adjua, Kanda Bongo Man, Rasha, Rahim El Habachi & Ayoub Boukhalfa.

Am ffordd anhygoel i ddod â’r ŵyl 2023 i ben, roedd yn brofiad hyfryd a gobeithiwn y byddwch yn ymuno â ni y tro nesaf ar gyfer yr hyn sy’n argoeli i fod hyd yn oed yn well (os mae’n bosib) na’n blwyddyn gyntaf! Mwy o wybodaeth i ddod gyda dyddiadau ar gyfer 2024, cadwch olwg!

Dathliad Cymru-Affrica 2023 Comisiynau Affro-Gymreig

Yn y cyfnod cyn yr ŵyl fe wnaethom hefyd gomisiynu tri chydweithrediad Affro-Gymreig newydd i’w perfformio yn yr ŵyl. Creuodd The Successors of the Mandingue All Stars gyda’r gantores werin Gymreig Eve Goodman gân hyfryd ‘Da Ni Yma Cymru, Da Ni Yma Affrica’ gyda’i gilydd a’i pherfformio’n fyw ar y ddau benwythnos yr ŵyl – dyma’r fideo.

 

Bu’r arwr Cymreig Dafydd Iwan a’r artist gair llafar Ali Goolyad wedyn yn cydweithio i greu ‘Rwyt Ti Fel Tae’r Awyr Yn Gefnfor’ y gallwch ddarllen mwy amdano a’i wylio yma.

Yn olaf fe wnaethom gomisiynu darn dawns rhwng Aida Diop a Krystal Lowe – fel Ballet Cymru yn cwrdd â Ballet Africains. Am y fideo a mwy o wybodaeth gweler yma.

 

Workshops

Screenshot of workshop booking page

Thanks

Many thanks to the Arts Council of Wales, North West Wales (Anglesey, Gwynedd, and Conwy) Regional Community Cohesion Fund, University of Wales Trinity St Davids & Global Humanity for Peace Institute, Culture Step (Arts & Business Wales), Ty Cerdd, Anthem Atsain Fund, Orchard Lwp/S4C, Fizzi Events, and Tesco;  plus our partners Neuadd Ogwen, Butetown Arts and Culture Association (BACA), the Wales Millennium Centre, and Rahim El Habachi for working with us to make this happen.

We hope you enjoyed this exciting celebration of diversity and unity in the heart of Wales

Follow us on social media (links at the end of the page) and see this page for updates and announcements about future events.

 

Dathliad banner

Dathliad 2023 logo stack