Cydweithfa a aned yng Nghaerdydd yw Afro Cluster a ysbrydolwyd gan etifeddiaeth ffync/Afrobeat Gorllewin Affrica a Hip-Hop oes aur.
Ar draws eu perfformiad fe glywch rythmau cryfion a chytganau jazzaidd wedi’u haddurno gan eiriau ysgogol wedi’u ysgrifennu a’u ganu gan emcee Skunkadelic.
Maent wedi cael derbyniad da ar daith gyda phrif slotiau gwyliau yn y DU sy’n gynnwys Glastonbury, WOMAD, Green Man, Boomtown, a Wilderness.
Maen nhw hefyd wedi perfformio sioeau cymorth gyda phobl fel Gilles Peterson, Hot 8 Brass, People Under The Stairs ac Ibibio Sound Machine.
Lansiodd albwm cyntaf y band ‘The Reach’ ym mis Chwefror 2021, gan archwilio penbleth y natur ddynol, ein perthnasoedd, ein brwydrau a chyflwr presennol y diwydiant cerddoriaeth, gyda ffocws ar sut y gall meddylfryd cadarnhaol ac undod ein helpu i ddod o hyd i atebion.
“Maen nhw’n dystiolaeth wych bod y gerddoriaeth orau yn bodoli rhwng a thu hwnt i ffiniau ‘genres’ a ffiniau cenedlaethol, ac [mae Afro Cluster] yn cael eu sôn fel un o fandiau byw gorau Cymru.” – Gorwelion BBC
Afro Cluster is Skunkadelic (vocals), DJ Veto (turntables & percussion), Andrew Brown (bass), Charlie Piercey (guitar & keyboards), Russell Evans (trombone), Laurence Collier (trumpet) Sam Robertson (saxophone) and Django Lancaster Thomas (drums).
afrocluster.bandcamp.com/