Gweithdy Dawns Moroco Chaabi gydag Ayoub Boukhalfa
Mae Moroco yn wlad llawn mynegiant dawns amrywiol, o Tachlhit, i Ahidouss a Reguada. Yn y gweithdy hwn byddwn yn dysgu math o ddawns o’r enw Chaabi, sy’n cael ei dawnsio yn gyffredin yn y rhan fwyaf o ddathliadau Moroco. Byddwch yn dysgu sut i siglo dy frest, gwthio eich cluniau, a chwipio eich gwallt, ac yn bennaf oll byddwn yn cael llawer o hwyl – peidiwch ag anghofio eich sgarffiau.