Bloco Sŵn & The Tone Cords

Bloco Swn & The Tone Cords

Band Carnifal o Ogledd Cymru dan arweiniad yr offerynnwr taro Colin Daimond, sefydlwyd Bloco Sŵn yn 2012 ar fodel “Bloco” o Garnifalau Brasil – grŵp o ddrymwyr yn chwarae amrywiaeth o arddulliau carnifal gwahanol a llawer o gyfansoddiadau gwreiddiol. Mae’r Tone Cords yn grŵp Affricanaidd a Charibïaidd sydd newydd ei sefydlu ym Mangor sy’n hyrwyddo treftadaeth Affricanaidd/Caribïaidd ar draws y cyfandiroedd. Mae’r ddau grŵp yn hyrwyddo’r Iaith Gymraeg mewn prosiectau creadigol ac addysgol. Bydd y cydweithiad arbennig hwn yn cyfuno diwylliannau a lleisiau drymiau siarad Affricanaidd, alawon traddodiadol Cymreig, offerynnau taro carnifal Brasil a’r cymunedau Iorwba-Cymreig yng Ngwynedd.