Dafydd Iwan

Dafydd Iwan festival promo pictureCOMISIWN YR ŴYL

DAFYDD IWAN & ALI GOOLYAD

Graddiodd Dafydd Iwan fel pensaer o Ysgol Bensaernïaeth Cymru, Caerdydd, a derbyniodd radd LL.D. er anrhydedd gan Brifysgol Cymru am ei gyfraniad i Gymru a’r Gymraeg. Mae’n aelod er anrhydedd o Orsedd y Beirdd ac yn Gymrawd o Brifysgolion Bangor, Caerdydd ac Aberystwyth. Cadeirydd Cymdeithas yr Iaith Gymraeg 1968 – 71, a Llywydd Plaid Cymru 2003 – 10. Canwr-Gyfansoddwr sydd wedi cyhoeddi nifer helaeth o recordiau, ac awdur sawl llyfr; ei gân “Yma o Hyd” oedd anthem swyddogol tîm pêl-droed Cymru yng Nghwpan y Byd. Mae’n byw gyda’i wraig Bethan yn Rhos-bach, ger Caernarfon. Mae ganddo 5 o blant.

 

Ali Goolyad festival promo picture Mae Ali Goolyad yn fardd, actor ac actifydd cymunedol. Wedi’i eni yn Hargeisa, Somaliland, ymfudodd Ali i Gymru yn 1 oed. Mae ei waith blaenorol yn cynnwys ysgrifennu a pherfformio yn De Gabay, (Theatr Genedlaethol Cymru), Border Game, Storm 2, Big Democracy Project (Theatr Genedlaethol Cymru), Borderland (Radio 4), Talking Doorsteps (Roundhouse), Mattan Injustice of a Hanged Man (BBC), a Black and Welsh (BBC Wales). Mae Ali mwynhau cydweithio gydag eraill ac y caru’r fersiwn o ddiwylliant Cymreig y mae’n ei greu.

Fe gyfarfodd Ali a Dafydd ar hap yng nghanol Caerdydd yn y cyfnod cyn Cwpan y Byd (https://fb.watch/nr0aDReD7d/). Y cysylltiad â geiriau ‘Yma o Hyd’ a daniodd ddiddordeb yn y potensial ar gyfer cydweithrediad cerddorol/llafar rhwng y ddau Gymro balch gwahanol iawn yma.

 

bethesda festival weekend banner