Mae Dele, Llysgennad Affrobeat, wedi ennill llu o wobrau, ac wedi bod yn chwifio baner Affrobeat yn gyson ers 1995. Dechreuodd ei yrfa gerddorol gyda band Egypt 80 Fela Kuti ac yna cydsefydlodd ac arweiniodd Positive Force gyda’i ffrind o blentyndod Femi Kuti.
Roedd Dele yn Gyfarwyddwr Cerdd ac yn Ymgynghorydd Cerddoriaeth Affrobeat ar gyfer y sioe gerdd arobryn FELA! yn y National Theatre, Llundain ac wedi perfformio ar hyd y byd yn cynnwys Gŵyl Jazz Montreux, Ŵyl Mawazine yn Rabat Morrocco, Ollin Khan ym Mecsico, De Corea a Gŵyl Jazz Copenhagen.
Mae ei gyfuniad o ffync cymhleth, cerddoriaeth draddodiadol Nigeria, offerynnau taro Affricanaidd ac ymdeimlad gwaelodol o jazz gyda’i sgiliau bysellfwrdd penigamp a’i ganu rhythmig yn gwneud Dele un o awdurdodau mwyaf uchel ei barch Affrobeat ei oes.
Bydd ei fand 7 darn yn ymuno â Dele.

“A true master of the form” – Clash Magazine
“Dele Sosimi.. A total music legend!” – Cerys Matthews (BBC 6 Music)