Justin Adams a Mohamed Errebbaa

Justin Adams & Mohamed Errebbaa

Mae’r ddeuawd hon yn dod â phŵer hypnotig cerddoriaeth trans Gnawa a ‘blues yr anialwch’ at ei gilydd i greu sain unigryw sy’n codi’r ysbryd ac yn gwneud i chi eisiau symud!

Mae Justin Adams, y gitarydd hybarch o’r DU yn fwyaf adnabyddus am ei waith gyda Jah Wobble’s Invaders of the Heart, ei gydweithrediadau â Robert Plant, Tinariwen, Rachid Taha, a Juldeh Camara. Mae ei gysylltiad â cherddoriaeth trans Gogledd Affrica wedi bod rhan annatod o’i sain erioed.

Mae’r prosiect newydd hwn yn ei weld yn ymuno ag Mohamed Errebbaa, a ddechreuodd berfformio yn ddeg oed gyda brawdoliaeth Suffi traddodiadol yn Rabat, Moroco, a derbyniodd y teitl Maalem (meistr y traddodiad Gnawa) yn ei 20au. Mae cerddoriaeth Gnawa yn cysylltu elfennau o gerddoriaeth Arabaidd y Gogledd a cherddoriaeth Affrica Is-Sahara â chyfriniaeth y Suffi.