Sabary Kagnin

Sabary Kagnin

Sefydlodd Ousmane Kouyaté y grŵp Sabary Kagnin yn 2023 mewn ymdrech i hyrwyddo diwylliant cerddorol Gini, ef hefyd yw sylfaenydd Kobenawati (grŵp diwylliannol sy’n anelu at hyrwyddo diwylliant, dawns, canu a cherddoriaeth draddodiadol Affricanaidd a Gini yn bennaf).

Ganed Ousmane i deulu griot yn Conakry, mab i’r balafonydd enwog Fatoumata Kouyaté a elwir hefyd yn Djeliguinet. Dysgodd Ousmane y balafon o oedran cynnar hefyd. Mae Sabary Kagnin nid yn unig yn addasu cerddoriaeth a chaneuon traddodiadol Gini ond hefyd yn perfformio cyfansoddiadau gwreiddiol gan ddefnyddio offerynnau traddodiadol fel balafonau, koras, drymiau, boté, bolon a krins.

Bydd y grŵp yn ymuno â ni o Ffrainc ar gyfer y perfformiad arbennig hwn.