Tijesunimi (Teejay) Olakojo

Teejay at No Fit State Circus eventMae Tijesunimi Olakojo yn actores, awdur, cyfarwyddwr, a chynhyrchydd ffilm sy’n arbenigo mewn defnyddio dawns draddodiadol Yorùbá bàtá a symudiadau rhythmig cynhenid ​​mewn theatr, ffilm, a chynnwys gweledol arall gan ychwanegu barddoniaeth Saesneg ac Yorùbá, gair llafar, llafarganu, cerddoriaeth, mawl, moliant  ac adrodd straeon. Gan raddio gyda rhagoriaeth ar y cwrs drama MA o Brifysgol De Cymru, archwiliodd y technegau perfformio hyn mewn drama lwyfan unigol o’r enw “The Imaginary Ring” a “Break-ing” ffilm ddogfen a ysgrifennodd, a gynhyrchodd, cyfarwyddodd, actiodd mewn, tra yn dehongli’r rolau hyn trwy ddawns bàtá.

Mae Tijesunimi, a elwir hefyd yn Teejay, yn credu bod y ddawns bàtá yn fodd i gyfathrebu’r anhysbys, sy’n cynnwys teimladau ac emosiynau anodd, a chafodd hyn ei bortreadu’n dda yn Break-ing; ffilm sy’n archwilio croestoriad o fod yn actor mewnfudwyr benywaidd du ym Mhrydain. Mae Teejay yn ddisgynnydd i ddrymwyr cynhenid ​​proffesiynol o’r ymerodraeth enwog Ọ̀yọ́ ymhlith llwyth Yorùbá (De-orllewin) Nigeria. Hi yw gor-wyres Bàbá Àyánbìyí a hi yw’r cyntaf yn y teulu i barhau â’r traddodiad o ddawnsio drymiau ers ei farwolaeth.

Mae ei hyfforddiant cynnar yn mynd mor bell yn ôl a’i ysgol elfennol. O’i gwisg liwgar, unigryw arloesol, sy’n gymysgedd o arddull frodorol Affricanaidd a chyfoes, ei dirgryniadau corff cyffrous, i’w gwên hudolus, mae Teejay yn wir yn rhyfeddod i’w weld pan yn perfformio. Mae hi wedi hogi ei chrefft wrth ddawnsio i’r drwm bàtá. Mae Teejay yn parhau i ddawnsio mewn dramâu,
ffilmiau, carnifalau, gwyliau, digwyddiadau eraill, a chynnwys gweledol.

Mae ei pherfformiadau dawns diweddar yn cynnwys Sioe Ffasiwn Dathliad Affrica- Cymru yng Nghanolfan Mileniwm Cymru (ar gyfer The Successors of the Mandingue), Carnifal Butetown, Gwledd Parc (NoFit State Circus), digwyddiadau Mis Hanes Pobl Dduon ar gyfer Cyngor Dinas Sir Fynwy a The Creative Plug Cymru a chyflwyno gweithdy ar gyfer Tymor Artistiaid Ffoaduriaid Cymru yng Nghastell y Gelli.