Cyhoeddwyr heddiw mai Cymru fydd partner rhyngwladol Showcase Scotland Expo 2022. Mae’r Showcase yn rhan o ŵyl gerddoriaeth Celtic Connections, sy’n enwog yn y pedwar ban. Mae’r digwyddiad blynyddol fel arfer yn cael ei gynnal yn Glasgow bob mis Ionawr, ond mae’r ŵyl eisios yn ddathliad ar-lein eleni.
Yn y digwyddiad lansio rhithiol, bydd cynrychiolwyr byd-eang Showcase Scotland yn mwynhau perfformiadau gan dri artist o Gymru, i gyd wedi’u ffilmio mewn lleoliadau unigryw yn yr awyr agored. Bydd Lisa Jên, prif gantores y band 9Bach, yn canu acapela i’r gynulleidfa o hen chwarel lechi Dorothea. Drymiwr Balafon traddodiadol o Gini, Gorllewin Affrica, yw N’famady Kouyaté. Ac yntau bellach yn byw ac yn gweithio yng Nghymru, cafodd ei ffilmio yng nghanol ysblander Eryri. Daw perfformiad Gareth Bonello o ŵyl Gymraeg Tafwyl yng Nghastell Caerdydd.
Bydd N’famady yn ymddangos yn noson Gymreig Celtic Connections, nos Iau 28 Ionawr, gydag uchafbwyntiau o Ŵyl Ara Deg, sydd wedi’i chreu gan Neuadd Ogwen a’r cerddor Gruff Rhys. Mae rhagor o wybodaeth yn:
https://www.celticconnections.com/event/1/night-of-wales-at-celtic-connections
[:bsl]Wales has been confirmed as the international partner at the Showcase Scotland Expo 2022. The Showcase is part of the internationally renowned music festival, Celtic Connections. The annual January event usually takes place in Glasgow, but this year’s edition is an online celebration that has already attracted thousands of viewers from all over the world.
In the virtual launch event, Showcase Scotland’s global delegates will enjoy featured performances by three artists from Wales, all filmed in unique outdoor locations. Lisa Jên, lead singer of the band 9Bach will sing acapela to audiences from Chwarel Dorothea- a disused slate quarry. N’famady Kouyaté is a traditional Balafon playerr from Guinea, West Africa, now living and working in Wales, was filmed against in the spectacular mountain range of Eryri (Snowdonia). Gareth Bonello’s performance comes from the Welsh language festival Tafwyl in Cardiff Castle.
N’famady will appear in the Wales night at Celtic Connections Thursday 28th of January featuring highlights of Ara Deg Festival, created by Neuadd Ogwen and musician Gruff Rhys. Further information on:
https://www.celticconnections.com/event/1/night-of-wales-at-celtic-connections