“Danser Ensemble…” yn cyflwyno – Krystal Lowe

Nesaf o ‘tîm Cymru’ fel rhan o’n prosiect Cymru/Senegal 🏴󠁧󠁢󠁷󠁬󠁳󠁿 🇸🇳  “Danser Ensemble…” yw Krystal S. Lowe. Mae’r prosiect Go Digital hwn yn bartneriaeth rhwng The Successors of the Mandingue a CIE Fatou Cissé a gefnogir gan British Council Cymru. Mwynhewch waith byrfyfyr Krystal ar gyfer y darn ar gyfer unawdau a gyfansoddwyd gan N’famady Kouyaté, a ffilmiwyd yng Nghanolfan Mileniwm Cymru, Caerdydd, gan Tim Short. Credyd llun: Sleepy Robot Photography.

Bio:
🏴󠁧󠁢󠁷󠁬󠁳󠁿 🇧🇲
Mae Krystal Lowe yn ddawnsiwr, coreograffydd, ysgrifennwr a chyfarwyddwr o Bermuda sy’n byw yng Nghymru, sy’n creu gweithiau theatr ddawns ar gyfer llwyfan, gofod cyhoeddus, a ffilm sy’n archwilio themâu hunaniaeth groestoriadol, iechyd meddwl a lles, a grymuso mewn ffordd sy’n herio ei hun a chynulleidfaoedd tuag at fewnsylliad a newid cymdeithasol.
Mae ganddi yrfa helaeth yn perfformio ac yn teithio gyda Ballet Gymru ledled y Deyrnas Unedig, Tsieina a Bermuda; a gweithio gyda chwmni syrcas Citrus Arts, Ransack Dance, Theatr Iolo, The Successors of the Mandingue, a Laku Neg.
Mae ei chredydau diweddar yn cynnwys: ‘Whimsy’ a gomisiynwyd gan Articulture Wales mewn cydweithrediad â Theatr Glan yr Afon gyda chefnogaeth Cyngor Celfyddydau Cymru, Llywodraeth Cymru a’r Loteri Genedlaethol; ‘Rewild’ a gomisiynwyd gan Green Man Trust, a gyflwynwyd yng Ngŵyl y Dyn Gwyrdd 2020 a gŵyl The Place, ‘How Can We Care for Each Other’; ‘Merch y Môr’ a gomisiynwyd gan Ffilm Cymru, BBC Arts, BBC Cymru, a Chyngor Celfyddydau Cymru; ‘Pethau Da i Ddod’ a gomisiynwyd gan Gwmni Dawns Genedlaethol Cymru a Llenyddiaeth Cymru ar gyfer Cymru yn yr Almaen 2021 Llywodraeth Cymru; ‘Rhywsut’, Comisiwn Digidol Theatr Cerdd Cymru 2021; a ‘Complexity of Skin’ a gomisiynwyd gan y Space ar gyfer Culture in Quarantine y BBC.
British Council logo