Ein ffilm fer newydd – Gwreiddiau Balafon

Yn ystod gaeaf 2021/22, teithiodd ein Cyfarwyddwr Artistig, N’famady Kouyaté, i’w famwlad, Gini, ar daith ymchwil a datblygu a gefnogir gan Gronfa Cyfleoedd Rhyngwladol Celfyddydau Rhyngwladol Cymru i ymchwilio traddodiad ei offeryn (y balafon) a’i stori (sydd mor ganolog i lên gwerin y Mandingue). Mewn partneriaeth â chwmni theatr o Conakry (Uni Arts et Culture), a’i gyfarwyddwr Lamine Diabaté, arbrofodd N’famady greu darn cydweithredol yn cynnwys adrodd straeon, cerddoriaeth, a dawns. Gwnaeth y grŵp rhannu darn o’i gwaith cychwynnol yng ngherddi gwesty Onomo yn Conakry (mae clipiau o’r digwyddiad yn y ffilm isod).

Mae’r ffilm fer a gynhyrchwyd gan y prosiect yn rhoi cipolwg ar daith a oedd yn dogfennu sut mae creu balafon, cyfweliadau â henuriaid, a chwarae balafon mewn gwahanol leoliadau. Darllenwch ein tudalen we isod i ddarganfod stori hudolus Balla Fassèké Kouyaté fel y’i hadroddwyd gan y djeli ers canrifoedd.

https://successorsotm.wpenginepowered.com/book-us/projects/balafon-origins/?lang=cy

Organisation and funders' logos