Recriwtiaid Newydd!

Rydym am gyflwyno ein dau aelod newydd o staff – Naomi Reid, Rheolwr Prosiect Dathliad Cymru-Affrica; a Suleiman Atta, Swyddog Prosiect Camau Creadigol.

NAOMI REID

Yn camu i fyny fel Rheolwr Prosiect ar gyfer ein prosiect Cysylltu & Ffynnu mewn partneriaeth â Neuadd Ogwen, BACA, ac Abdrrahim Elhabchi; wedi ei ariannu gan Gyngor Celfyddydau Cymru. Bydd Naomi yn brysur yn datblygu’r cysyniad o ŵyl aml-leoliad Cymru-gyfan yn barod i’w chyflwyno yn 2023.
BIO:
Yn wreiddiol o Sir Amwythig, treuliodd Naomi 17 mlynedd yn Llundain ac mae bellach wedi’i lleoli yn Sir Gaerfyrddin lle mae’n byw gyda’i phartner a’i mab ifanc. Mae ganddi dros 22 mlynedd o brofiad yn y sector dielw a’r byd cerddoriaeth, gan arbenigo mewn rheoli digwyddiadau, cyfathrebu, rheoli prosiectau a swyddfa, a rheoli artistiaid. Roedd Naomi gyda chorff anllywodraethol menywod Affricanaidd FORWARD (yn gweithio i roi terfyn ar drais yn erbyn merched/menywod Affricanaidd) yn gweithio mewn gwahanol alluoedd o Ymddiriedolwr i Reolwr Cyfathrebu a Digwyddiadau, yma defnyddiodd ei hangerdd dros y celfyddydau i sefydlu Musicians Unite to End Female Genital Mutilation (MUTEFGM) ac Artistiaid yn Uno i Derfynu prosiectau FGM a oedd yn cynnwys teithio Dobet Gnahore o Cote D’Ivoire a’r artist ‘blues’ o’r UD Corey Harris. Mae hi wedi gweithio’n bennaf gyda’r alltudion Affricanaidd yn y DU/Ewrop ac ar brosiectau yn Nhanzania, Sierra Leone, Ghana a Nigeria. Mae Naomi yn rhedeg ei sefydliad celfyddydol ei hun Chanya Culture Promotions sy’n cefnogi cerddorion/artistiaid Affricanaidd gydag elfen newid gymdeithasol yn eu gwaith.

SULEIMAN ATTA

Mae Suleiman yn dechrau ar rôl ymchwil fel rhan o brosiect datblygu – yn gyntaf fydd yn mapio’r byd gerddoriaeth Affro-Gymreig o ran prosiectau, cefnogaeth, a mentrau – felly efallai y bydd mewn cysylltiad yn fuan iawn.
BIO:
Mae Suleiman Atta yn hanu o Bauchi, Nigeria. Graddiodd yn ddiweddar o Brifysgol De Cymru gyda BA mewn Cerddoriaeth Boblogaidd a Masnachol. Cyrhaeddodd Suleiman Gymru yn 2013 ac mae’n caru’r wlad. Mae hefyd yn ganwr a chyfansoddwr caneuon ac yn arbenigo mewn gwneud cerddoriaeth bît-affro. Yn 2014 enillodd y gystadleuaeth Welsh Factor ac mae wedi bod yn perfformio ers hynny. Mae Suleiman bellach yn byw yng Nghaerdydd gyda’i frawd iau. Mae’n rhugl yn Hausa sy’n iaith frodorol yn Nigeria.