Galwad am hyrwyddwyr, lleoliadau, a gwyliau i ymuno â rhwydwaith newydd

Dathliad Cymru-Affrica yw ein prosiect cydweithredol Cymru-gyfan uchelgeisiol a chyffrous sydd wedi bod yn llwyddiannus gan sicrhau cyllid Cyswllt a Ffynnu Cyngor Celfyddydau Cymru. Ein partneriaid ar y prosiect hwn yw: Neuadd Ogwen (canolfan gelfyddydol ym Methesda, Gwynedd), BACA (Cymdeithas Celfyddydau a Diwylliant Butetown, sy’n gyfrifol am Garnifal Trebiwt) a Rahim El Habachi (ymgynghorydd celfyddydau, ymgyrchydd ac artist LQBT+).

Nod y prosiect dwy flynedd hwn yw dod ag artistiaid, hyrwyddwyr/lleoliadau, a chynulleidfaoedd at ei gilydd i ddathlu a gwerthfawrogi celfyddydau ymarferwyr Affricanaidd a’r alltudion Affricanaidd yng Nghymru trwy ddatblygu gŵyl aml-leoliad Cymru-Affrica a rhwydwaith/cylchdaith o leoliadau, hyrwyddwyr, digwyddiadau, a gwyliau sydd â diddordeb mewn rhaglennu celfyddydau Affricanaidd.

Fe wnaethom dreialu cysyniad gŵyl ym mis Awst 2022 lle gwahoddwyd y grŵp Troupe Djeliguinet o Gini, i berfformio mewn digwyddiad gŵyl undydd mewn partneriaeth â ‘R Neuadd Lles, Ystradgynlais, ac i gyflwyno perfformiadau a gweithdai yng Ngharnifal Trebiwt, Gŵyl y Byddar Celtaidd, y Dyn Gwyrdd, yr Eisteddfod Genedlaethol, Ara Deg, a Balchder Cymru. Rydym nawr yn cynllunio ar gyfer ail brosiect Gŵyl Dathliad Cymru-Affrica yn 2023 i’w gynnal ar draws dau leoliad (Bethesda a Chaerdydd) dros ddau benwythnos ym mis Mehefin. Yn y cyfnod cyn yr ŵyl (ac i ddilyn) rydym yn cynllunio gweithdai cyfranogol cymunedol trwy gydol y flwyddyn (dawns Affricanaidd, drymio, adrodd straeon a gair llafar) o amgylch Cymru, a hefyd datblygu cydweithrediadau cerddorol newydd rhwng artistiaid alltud Affricanaidd sydd wedi’u lleoli yng Nghymru ac artistiaid Cymraeg.

Mae yna lawer o rwystrau i ddod ag artistiaid o Affrica i’r DU (costau, amseroedd cwblhau fisa, ac anawsterau prosesu), a dyma un o’r rhesymau ein bod fel rhan o’n prosiect Dathliad Cymru-Affrica yn dod â hyrwyddwyr, lleoliadau, gwyliau at ei gilydd i ffurfio cylched/rhwydwaith i alluogi mwy o amserlennu celfyddydau Affricanaidd o ansawdd uchel o Affrica, Ewrop, ac o bob rhan o’r DU.

Bydd bod yn rhan o’r gylched/rhwydwaith yn:

  • Rhoi gwybod i chi am artistiaid y mae eraill yn gwahodd i’r DU, ac felly galluogi amserlennu perfformiadau nad oes gennych chi gyfle wneud fel arfer.
  • Os ydych chi eisiau gwahodd artist o Affrica ond nad ydych yn gallu fforddi’r holl gostau (fisas, hedfan, llety ac ati), gallwch estyn allan i’r rhwydwaith Dathliad Cymru-Affrica i gydweithio ag eraill i ledaenu’r costau.
  • Byddwch yn fwy ymwybodol o gelfyddydau alltud Affricanaidd cyffrous sydd wedi’u lleoli yn y DU, a hefyd ag artistiaid ifanc sy’n dod i’r amlwg.

Y cyfan sydd angen i chi ei wneud yw e-bostio Naomi Reid, ein Rheolwr Prosiect: naomi@successors.co.uk i ddweud yr hoffech fod yn rhan o’r gylched/rhwydwaith a byddwn yn rhannu unrhyw newyddion a chyfleoedd gyda chi, a hefyd roi gwybod i ni os oes gennych unrhyw syniadau neu wybodaeth yr hoffech eu rhannu a fyddai’n berthnasol i’r rhwydwaith. Byddwn yn creu rhestr o aelodau’r rhwydwaith, a dim ond yn rhannu hon ag eraill yn y rhwydwaith os byddwch yn cytuno i fod yn gyfranogwr. Byddwn hefyd yn anfon gwahoddiad i grŵp preifat ar LinkedIn a Facebook er mwyn hwyluso cyfathrebu a rhannu gwybodaeth.

Peidiwch ag oedi cyn cysylltu â ni os oes gennych unrhyw gwestiynau neu os oes angen mwy o wybodaeth arnoch.