CYDWEITHRED DAWNS – KRYSTAL LOWE & AÏDA DIOP am Dathliad Cymru-Affrica 2023

Dathliad Cymru-Affrica logo with two prominent Cs, Cymru C is filled with an African print type design, the Affrica C is filled with a Welsh blanket type designMae Ballet Cymru yn cwrdd a Ballet Africains gyda’r comisiwn gŵyl arbennig hwn sy’n dod â Krystal Lowe o Gasnewydd (artist ballet a dawns gyfoes) ac Aïda Diop o Abertawe (arbenigwr dawns sabar traddodiadol o Senegal) ynghyd. Mae’r ddau wedi bod yn rhan o brosiectau cydweithredol rhyngwladol gwahanol The Successors of the Mandingue o’r blaen. Roeddem yn gyffrous iawn i weld sut y byddai eu partneriaeth yn datblygu drwy ddod â Krystal ac Aida (a’u harddulliau unigryw) at ei gilydd yn yr un ystafell! Cafodd y darn ei ffilmio a’i olygu gan Tim Tyson Short i’w ddangos yn y Fic fel rhan o Ddathliad Cymru-Affrica Bethesda (gweler y ffilm isod) ac fe’i perfformiwyd yn fyw yn ein penwythnos gŵyl Dathliad Cymru-Affrica Caerdydd yng Nghanolfan Mileniwm Cymru (Mehefin 2023).

Dathliad banner