The Successors of the Mandingue All Stars gyda Eve Goodman

Ar gyfer Dathliad Cymru-Affrica 2023 comisiynwyd cydweithrediad arbennig rhwng N’famady Kouyaté (Cyfarwyddwr Artistig The Successors of the Mandingue) ac Eve Goodman i ddod â thraddodiadau gwerin Gorllewin Affrica a Chymru ynghyd mewn un darn, i ddathlu diwylliant hynafol, traddodiadau, ac ieithoedd eu gwledydd gwreiddiol. Cyfarfu N’famady ac Eve am y tro cyntaf pan gynrychiolodd y ddau Gymru yn Celtic Connections 2022 yng Nglasgow ar gyfer Showcase Scotland.

Yma gallwch weld The Successors of Mandingue All Stars gydag Eve Goodman yn perfformio’r canlyniad hyfryd ‘Da Ni Yma Cymru, Da Ni Yma Affrica’ yn ein gŵyl yn Neuadd Ogwen ym Methesda, wedi’i ffilmio gan Orchard ar gyfer S4C Lŵp. Buont yn perfformio’r darn yn y ddau leoliad gŵyl gan agor y digwyddiadau gyda’r hyn a throdd i fod yn anthem yr ŵyl. Buont hefyd yn rhan o’r rhaglen S4C Gwyliau ’23 ym mis Medi 2023.