Dafydd Iwan & Ali Goolyad

Fe wnaeth cyfarfod ar hap rhwng Dafydd Iwan a’r artist llafar Ali Goolyad yng nghanol Caerdydd yn y cyfnod cyn Cwpan y Byd a chysylltiad â geiriau ‘Yma o Hyd’ danio diddordeb yn y potensial ar gyfer cydweithrediad cerddorol/llafar rhwng y ddau Gymro balch mor wahanol. Mae’r fideo isod (a ffilmiwyd gan Orchard ar gyfer S4C Lŵp)  yn dangos Dafydd ac Ali yn perfformio gyda’i gilydd am y tro cyntaf, yn fyw o Amgueddfa Lechi Cymru. Mae’r darn hwn yn gomisiwn cydweithredol arbennig ar gyfer Dathliad Cymru-Affrica 2023.  Bu’r pâr hefyd yn perfformio yn Neuadd Ogwen, Bethesda fel rhan o’r ŵyl.

Enw’r darn yw Rwyt Ti Fel Tae’r Awyr Yn Gefnfor, sy’n seiliedig ar gerdd wreiddiol Ali. Gwelodd Dafydd debygrwydd rhwng y gerdd ac un o’i ganeuon ei hun, Ai Am Fod Haul Yn Machlud, sy’n cyd-fynd â’r darn hwn.

Dyma ddau gyfweliad gyda Dafydd ac Ali am gydweithio.