Rydym wedi cyrraedd y rhestr fer!
Rydym wedi cyrraedd y rhestr fer ar gyfer Gwobr Celfyddydau, Busnes ac Amrywiaeth Celfyddydau & Busnes Cymru, a noddir gan Elusen Iechyd Caerdydd a’r Fro am ein partneriaeth â Phrifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant ar ran o’n gŵyl Dathliad Cymru-Affrica llynedd. Waw – mor gyffrous!
Gwobrau C&B Cymru 2024
Noddir gan Valero
Cynhelir 29ain Seremoni a Chinio Gwobrau Celfyddydau & Busnes Cymru yng Nghanolfan Gynadledda Ryngwladol Cymru ddydd Iau 4 Gorffennaf 2024.
Mae’r Gwobrau’n bodoli i annog, cydnabod a dathlu partneriaethau rhagorol rhwng y sector preifat a’r celfyddydau ledled Cymru.
Mae’r cyfnod blaenoriaeth i archebu seddi a hysbysebu ar agor i Aelodau C&B Cymru ac enwebeion. Os oes gennych ddiddordeb mewn mynychu’r seremoni, e-bostiwch contactus@aandbcymru.org.uk am wybodaeth.
Rhestr Fer 2024
Gwobr Ymgynghorydd y Flwyddyn, noddir gan Grant Stephens Family Law
Siobhan Saunders, Barclays Partner Finance a Newbridge Memo
Gemma Barnett, Blake Morgan a Rubicon Dance
Lorraine Hopkins, Bowen Hopkins ac Articulture
Kate Fisher, Hospital Innovations a Theatr na nÓg
Celfyddydau, Busnes a’r Gymuned , noddir gan Wales & West Utilities
Awdurdod Harbwr Caerdydd a Lighthouse Theatre a Theatr na nÓg
Cymoedd i’r Arfordir ac Ymddiriedolaeth Ddiwylliannol Awen
Sony UK Technology Centre ac It’s My Shout Productions
Valero Pembroke Refinery a Vision Arts
Celfyddydau, Busnes ac Amrywiaeth, noddir gan Elusen Iechyd Caerdydd a’r Fro
Bad Wolf a Choleg Brenhinol Cerdd a Drama Cymru
Coastal Housing Group ac MLArt
Prifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant a The Successors of the Mandingue
Celfyddydau, Busnes a Gweithwyr, noddir gan Wind2
Cartrefi Conwy a Role Plays for Training
Port of Milford Haven a Celfyddydau SPAN
HCR Law a Hijinx
Celfyddydau, Busnes a’r Amgylchedd, noddir gan Brifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant a The Waterloo Foundation
Plantlife a Chanolfan Ucheldre a Live Music Now
Trafnidiaeth Casnewydd a Theatr a Chanolfan Gelfyddydau Glan-yr-Afon
Wind2 ac Arts Connection – Cyswllt Celf
Celfyddydau, Busnes ac Iechyd
Adferiad Recovery a Grand Ambition
Elusen Iechyd Caerdydd a’r Fro a Forget-Me-Not Chorus a Motion Control Dance & Rubicon Dance
Parc Pendine a Chanolfan Gerdd William Mathias