Nod AFJ Caerdydd yw darparu man iach lle gall dawnswyr Affro (neu’r rhai sy’n hoff o ddawns Affro) sydd â gwreiddiau Affricanaidd a/neu Garibïaidd neu beidio, ddod at ei gilydd i rannu eu cariad am Ddawns Affro, tyfu fel dawnswyr a dysgu mwy am y diwylliant a phwysigrwydd hanesyddol dawns Affro, a thrwy hynny greu ymdeimlad o berthyn i bawb. Defnyddio dawns fel offeryn dysgu creadigol: Mae aelodau’n cael eu haddysgu am y llu o wahanol arddulliau/technegau o Ddawns Affro ac mae eu galluoedd/potensial creadigol yn cael eu hymestyn a’u datblygu’n gyson. Boed un ar gam ddechreuwyr, canolradd neu arbenigol Dawns Affro, mae rhywbeth i bawb ei ddysgu gan fod y dosbarthiadau wedi’u strwythuro i gyd-fynd â phob lefel. Mae AFJ Caerdydd hefyd yn cynnig dosbarthiadau 1-1 i’r rhai sydd â diddordeb ynddynt a’i nod yw cynnal sgyrsiau a gweithdai diwylliannol. Bydd cyfleoedd hefyd i ymuno â grwpiau perfformio i arddangos dawns Affricanaidd yn barhaus. Mae AFJ Caerdydd yn cynnig dosbarthiadau i oedolion yn ogystal â phlant, tra hefyd yn mynd i ysgolion, yn cynnig gweithdai a threfnu digwyddiadau cymunedol, a pherfformiadau.