Aïda Diop

Aida Diop festival promo pictureMae gan Aïda egni heintus gyda phersonoliaeth enigmatig ac mae’n rhannu ei gwybodaeth, ei sgil a’i llawenydd heb ddal yn ôl. Ganwyd ym mhentref Ouakam; cartref grŵp ethnig Lebou yn Senegal (mae’r Lebou yn gymuned bysgota yn bennaf sy’n siarad Wolof), dechreuodd Aida ddawnsio sabar yn ifanc iawn. Ynghyd ag artistiaid eraill, ffurfiwyd y grŵp ‘Jappo’ sy’n golygu ‘gyda’n gilydd’ yn Ouakam. O’r grŵp hwn, cafodd Aïda ei sgowtio gan Landing Mane a ddaeth yn fentor ac athro iddi ym 1997. Ychwanegodd dawnsio djembe at ei repertoire ac aeth ymlaen i ymuno a Ballet Africain de Sanghoma a arweiniodd at daith gyda Daara-j yn Senegal a thramor. Yn 2009 ymunodd Aida â Bakalama de Thionkessyl a chafodd gyfle i ddysgu dawns sabar a djembe yn yr ysgol Americanaidd yn Llysgenhadaeth yr Unol Daleithiau yn Senegal.Mae gan Aïda egni heintus gyda phersonoliaeth enigmatig ac mae’n rhannu ei gwybodaeth, ei sgil a’i llawenydd heb ddal yn ôl. Ganwyd ym mhentref Ouakam; cartref grŵp ethnig Lebou yn Senegal (mae’r Lebou yn gymuned bysgota yn bennaf sy’n siarad Wolof), dechreuodd Aida ddawnsio Sabar yn ifanc iawn. Ynghyd ag artistiaid eraill, ffurfiwyd y grŵp ‘Jappo’ sy’n golygu ‘gyda’n gilydd’ yn Ouakam. O’r grŵp hwn, cafodd Aïda ei sgowtio gan Landing Mane a ddaeth yn fentor ac athro iddi ym 1997. Ychwanegodd dawnsio djembe at ei repertoire ac aeth ymlaen i ymuno â Ballet Africain de Sanghoma a arweiniodd at daith gyda Daara-j yn Senegal a thramor. Yn 2009 ymunodd Aida â Bakalama de Thionkessyl a chafodd gyfle i ddysgu dawns Sabar a Djembe yn yr ysgol Americanaidd yn Llysgenhadaeth yr Unol Daleithiau yn Senegal. Yn 2010 symudodd Aïda i’r DU gan weithio ochr yn ochr â Landing Mane, gan gymryd rhan mewn gweithdai amrywiol. Bu’n gweithio mewn gwyliau amrywiol megis Womad a Drum Camp gyda Ballet Nimba ac mae bellach yn byw yn Abertawe. Mae Aïda wedi cynnal gweithdai mewn amrywiol ysgolion a lleoliadau ac yn cynnal dosbarthiadau wythnosol rheolaidd yn Llundain.

 

CYDWEITHREDIAD DAWNS

KRYSTAL LOWE & AÏDA DIOP

Mae Ballet Gymru yn cwrdd â Ballet Africains gyda’r comisiwn gŵyl Dathliad Cymru-Affrica 2023 arbennig hwn sy’n dod â Krystal Lowe (artist dawns bale a gyfoes yng Nghymru) ac Aïda Diop (prif ddawnsiwr traddodiadol sabar o Senegal) ynghyd.  Rydym yn gyffrous iawn i weld sut mae’r bartneriaeth hon yn datblygu drwy ddod â Krystal ac Aïda a’u harddulliau unigryw at ei gilydd yn yr un ystafell!