Mae Bantu Arts yn grŵp o ddawnswyr gwrywaidd a benywaidd o Uganda, offerynwyr taro, cerddorion a chantorion. Maen nhw’n defnyddio offerynnau fel yr adungu (gitâr linynnol Affricanaidd), ngoma, endigidi (ffidil Affricanaidd), ac enkwanzi (pibau pan) ymhlith eraill. Mae mwyafrif eu perfformiadau yn gerddoriaeth a dawns werin draddodiadol o Uganda.