Bassekou Kouyaté & Ngoni Ba

Bassekou Kouyate & Ngoni Ba holding Malian instrument the ngoni (lute)Mae Bassekou Kouyate, o Mali, yn un o feistri’r ngoni, offeryn, liwt draddodiadol hynafol sy’n cael ei chwarae ledled Gorllewin Affrica, ac mae o’n cael ei barchu fel un o brif artistiaid byd-eang Affrica.

Mae ei fand, Ngoni Ba yn cynnwys chwaraewyr ngoni, offerynwyr taro a’r gantores ffantastig Amy Sacko. Gyda’i gilydd mae’n nhw wedi chwyldroi swn y ngoni, ac wedi gwthio canrifoedd o draddodiadau griot yn radical i’r dyfodol.

Mae Bassekou yn cael ei gydnabod fel arloeswr ac yn un o gadarnleoedd cerddoriaeth draddodiadol Malian, ac mae wedi cydweithio â phobl fel Ali Farka Touré, Toumani Diabate, Taj Mahal ac yn 2016 ymunodd â thaith Africa Express ynghyd â Damon Albarn a Paul Weller. Roedd albwm diweddar Bassekou, ‘Miri’ (breuddwyd yn iaith Bamana) ar frig Siartiau Cerddoriaeth y Byd Ewrop ym mis Chwefror 2019 ac enillodd y bleidlais Albwm Gorau’r Flwyddyn gan gylchgrawn Songlines.

Deheurwydd anhygoel a cherddoriaeth syfrdanol gan un o weledyddion cerddoriaeth Affrica.

Cardiff Dathliad event banner