Cantores-gyfansoddwraig o Ogledd Cymru yw Eve Goodman, sy’n ysgrifennu ac yn perfformio yn y Gymraeg a’r Saesneg. Mae ei cherddoriaeth wedi’i gwreiddio yn ei synnwyr o le. Wedi’i chludo gan lais clir, mae Eve’n plethu yn y byd naturiol a’r harddwch o’i chwmpas. Mae ei geiriau yn datgelu cysylltiad dwfn â’r hyn yw bod yn ddynol yn y cyfnod cythryblus, ysbrydoledig hwn. O nofio mewn llynnoedd a chanfod ei llais, i adael i’w dagrau gael eu golchi gan y cefnfor, mae ei EP diweddaraf Wave Upon Wave yn gasgliad elfennol o ganeuon am ddŵr. Wedi’u rhwymo gan themâu profiadau dynol torfol, mae pob cân yn archwilio ein perthynas â’r gwylltineb a’r gwirionedd o’n mewn. O gigs tŷ agos-atoch a gwyliau gwerin, i lwyfannau rhyngwladol The Dubai World Expo of 2022, mae presenoldeb llwyfan cyfareddol Eve yn anrheg y mae’n ei chario gyda hi ble bynnag yr aiff.
Ar gyfer Dathliad Cymru Affrica, mae cydweithrediad arbennig wedi’i gomisiynu rhwng N’famady Kouyaté (Cyfarwyddwr Artistig The Successors of the Mandingue) ac Eve Goodman i ddod â thraddodiadau gwerin Gorllewin Affrica a Chymru ynghyd mewn un darn, gan ddathlu traddodiadau diwylliannol hynafol ac ieithoedd eu gwledydd o darddiad. Bu i N’famady ac Eve cyfarfod am y tro cyntaf pan gynrychiolodd y ddau Gymru yn Celtic Connections 2022 ac rydym yn gyffrous i glywed y gwaith y maent wedi bod yn ei greu.