KORASON – Josh Doughty a Tim Tyson – deuawd Kora & Gitâr o Gymru
Cyflwynwyd y ddeuawd o Gymru Josh Doughty (kora) a Tim Short (gitâr) gyda’i gilydd gan y chwaraewr byd-enwog o’r ngoni Bassekou Kouyaté yn y Festival du Niger yn Segou, Mali, nôl yn 2007.
Mae Josh yn cael ei gydnabod yn eang fel un o’r chwaraewyr kora mwyaf endog sy ddim yn Affricanaidd, a dechreuodd chwarae’r kora yn ifanc pan gafodd ei fentora gan y parchedig kora maestro o Mali Toumani Diabaté (sy’n parhau i gymryd rhan frwd yn ei ddatblygiad). Mae galw mawr ar Josh am ei sgiliau dysgu, a chwaraeodd hefyd ar albwm Process Sampha ag enillodd y wobr 2017 Mercury. Mae Tim wedi teithio a recordio am dros 30 mlynedd, gan chwarae gyda The Waterboys, Afro Cluster, Joe Driscoll a Seckou.
Trwy eu cerddoriaeth, maent yn talu teyrnged i draddodiadau Mandinka gwych Gorllewin Affrica ochr yn ochr â chyfansoddiadau newydd eu hunain ac maent wedi perfformio mewn nifer o wyliau yn y DU gan gynnwys WOMAD, Shambala, Boomtown, Kaya, a Llangollen Fringe.