Mamadou Keita

Mamadou Keita profile picture with coloured stage lightingYn wreiddiol o Boké yn Gini, Gorllewin Affrica, symudodd Mamadou Keita i Conakry (prifddinas Gini), ac oddi yno teithiodd i’r Gambia gan orffen o’r diwedd yn y DU. Yn gerddor proffesiynol ers dros 25 mlynedd, mae Mamadou wedi bod yn byw yn y DU ers tua 15 mlynedd bellach. Mae Mamadou yn offerynnwr taro, yn arbenigo mewn doundoun ond hefyd yn chwarae djembe, kenkeni, sangban. Mae Mamadou yn dysgu dosbarth dechreuwyr wythnosol ym Mryste gan ddysgu rhythmau fel Kuku, Liberté, Tiriba, a Djole.