Tyfodd Mohamed Sangare (Momo) i fyny yn Côte d’Ivoire yn gweithio’r tir gyda’i fam-gu. Roeddent yn tyfu llawer o wahanol fathau o lysiau ar gyfer bwyd ac mae gan Momo ddealltwriaeth naturiol o ofalu am blanhigion. Mae’n hoffi gweithio gyda’i ddwylo a dechreuodd chwarae djembe pan oedd yn ifanc iawn yn yr Côte d’Ivoire, gan ddysgu trwy wylio’r meistr drymwyr yn ei bentref. Daeth Momo yn brif ddrymiwr proffesiynol ac mae hefyd yn trwsio drymiau. Mae Momo yn caru cerddoriaeth ac yn clywed cerddoriaeth yn synau’r byd o’i amgylch. Ei uchelgais yw i’r byd i gyd glywed y gerddoriaeth draddodiadol hardd o’i wlad sydd bob amser yn ei galon.