NAWARIS

NAWARIS festival promo picture

Mae grŵp celfyddydau perfformio Swdan Nawaris yn cynnwys plant dawnus o Swdan a gafodd eu geni a’u magu yng Nghymru. Iddynt hwy, mae dawns yn ffordd o gadw eu treftadaeth a’u diwylliant ac yn ffordd o’i hadlewyrchu a’i rhannu ag eraill. I’r bobl Swdan mae dawnsio yn rhan o fywyd normal, maen nhw’n mwynhau eu cerddoriaeth a’u dawns yn eu dathliadau ac achlysuron arbennig. Mae mathau ac arddulliau Arabaidd ac Affricanaidd yn dylanwadu ar ddawns Swdan. Er bod rhythm y ddawns yn amrywio o le i le, yr un yw’r patrwm yn y bôn ar draws y wlad. Mae Grŵp Nawaris dawns o Swdan yn perfformio dawns o wahanol lwythi Swdan.

Daw’r ddawns Kern o fynydd Nuba, un o’r arddulliau dawnsio mwyaf poblogaidd yn Swdan. Egwyddor sylfaenol y ddawns hon yw dangos cryfder a symudiad corff hyblyg mewn menywod a dynion.
Gelwir dawns llwyth Bani Amr (Siseid), sy’n llythrennol yn golygu tonnau’r môr. Mae’r ddawns hon yn cynnwys merched yn arddangos eu harddwch ynghyd â dawns y cleddyf.
Mae dawns y briodferch yn ddawns sy’n rhan o’r seremoni briodas, lle mae’r briodferch yn dangos ei harddwch a’i sgiliau dawnsio o flaen ei phriodfab.
 
 
 
Cardiff Dathliad event banner

Mae’r darn sy’n cael ei berfformio fel rhan o Ddathliad Cymru-Affrica 2024 ac Eisteddfod Gerddorol Ryngwladol Llangollen yn gomisiwn newydd wedi’i ddyfeisio a’i gyd-greu gan y bobl ifanc, y coreograffydd Majid Hassan, a’r cyfarwyddwr cerdd N’famady Kouyaté.