Mae Meistr Dawns Gini, Salif Camara, yn mynd â chi ar daith swynol i ddawns a rhythmau traddodiadol Gorllewin Affrica. Mae Salif yn ddawnsiwr talentog ac yn athro ddawns, sydd bellach wedi’i lleoli yn y DU. Mae wedi bod yn hyfforddi mewn dawns ers yn 12 oed ac wedi dawnsio gyda nifer o gwmnïau ballet clodwiw yn Guinea, y mae wedi teithio gyda nhw o amgylch Gorllewin Affrica. Mae ganddo brofiad helaeth o ddysgu myfyrwyr Ewropeaidd, yn Affrica ac yn y DU. Yn ystod y cyfnod clo bu Salif yn dysgu dosbarthiadau dawns Affricanaidd yn rheolaidd trwy Zoom, gan adeiladu dilynwyr ffyddlon o fyfyrwyr ledled y DU. Gyda The Successors of the Mandingue All Stars mae wedi perfformio a darparu gweithdai ar gyfer amrywiaeth o ddigwyddiadau gan gynnwys gŵyl y Dyn Gwyrdd, Global Grooves, Gŵyl Fwyd Caerdydd, ac Ara Deg.