Mae Suntou Susso yn aml-offerynnwr: chwaraewr Kora, offerynnwr taro, canwr a chyfansoddwr o’r Gambia.
Wedi’i eni i fewn i’r traddodiad Griot 700-mlwydd-oed, mae Suntou yn perfformio’i rôl fel haneswr, storïwr, ac yn uno pobl trwy gân. Liwt-telyn 22 tant yw’r kora, offeryn prin a hudolus. Mae cerddoriaeth Suntou Susso yn dod â naws dda ac yn cyfuno sain gyfoethog a thraddodiadol ei ddiwylliant Mandinka Gorllewin-Affricanaidd ag Affro-funk a soul.
Yn 2022 rhyddhawyd albwm cyntaf Suntou, KANÉFONYO (Byth rhoi’r gorau iddi), yn hollol hunan-ysgrifenedig, wedi’i chyfansoddi a’i threfnu, ac y mae Suntou bellach yn mynd ar daith!
Disgwyliwch sioe egnïol a phwerus wrth i Suntou a’i fand fynd â chi ar deithiau lluosog: i heulwen Affrica; ei ddiwylliant; a thrwy negeseuon yr albwm o gariad, heddwch, cydraddoldeb a dyfalbarhad yn wyneb adfyd.
Ar Dathliad Cymru-Affrica, Bethesda 2023, wnaeth y gantores wadd arbennig o Gaerdydd, Binta Susso, sy’n canu ar Kanéfonyo, yn ymuno â band llawn Suntou.
Am fwy o wybodaeth a chyswllt uniongyrchol ewch i: https://suntoususso.com
suntoususso.com