The Successors of the Mandingue All Stars

The Successors of the Mandingue festival promo picture
Mae The Successors of the Mandingue All Stars yn band trawiadol – pob un yn meistroli eu crefft, yn cynnwys offeryniaeth draddodiadol Gorllewin Affrica, rhythmau heintus, symudiadau dawns ffrwydrol, ac alawon hudolus. Mae’r cludwyr safonol hyn o ddiwylliant Mandinka dilys yn rhannu eu treftadaeth trwy berfformiadau llawen a fydd yn gwneud i bawb symud.  Maent yn hyrwyddwyr y diwylliant Mandinka, ac mae pob artist yn seren yn ei rhinwedd ei hun, wedi’i drochi yn nhraddodiad barddol griot (neu djeli) Gorllewin Affrica o warchod straeon a hanesion eu pobl trwy gerddoriaeth, dawns, a chân. Yn hanu o Gini, Senegal, Y Gambia, Cote d’Ivoire, a Burkina Faso, mae eu arddull cerddorol wedi’u gwreiddio yn yr un traddodiadau hynafol a oedd yn ymestyn dros yr hen Ymerodraeth Mandingue. Mae pŵer ac egni pur eu setiau yn syfrdanu cynulleidfaoedd ble bynnag y byddant yn mynd. Cewch eich dal ar daith i Orllewin Affrica ac yn ôl – rydym yn addo y byddwch yn gadael yn gwenu!

Ar gyfer Dathliad Cymru Affrica 2023, mae cydweithrediad arbennig wedi’i gomisiynu rhwng N’famady Kouyaté (Cyfarwyddwr Artistig The Successors of the Mandingue) ac Eve Goodman i ddod â thraddodiadau gwerin Gorllewin Affrica a Chymru ynghyd mewn un darn, gan ddathlu traddodiadau diwylliannol hynafol ac ieithoedd eu gwledydd o darddiad. Bu i N’famady ac Eve cyfarfod am y tro cyntaf pan gynrychiolodd y ddau Gymru yn Celtic Connections 2022 ac roeddwn more gyffrous i glywed y gwaith y maent wedi bod yn ei greu – gweler y canlyniad isod.