Diwrnod Dathlu Diwylliant Affrica, Y Neuadd Lles, Ystradgynlais 11/08/22

Thu 11 Aug 2022 Wales Millennium Centre
Y mis yma, fel rhan o’n prosiect Dathliad Cymru-Affrica, byddwn yn mynd ar daith gyda’r cerddor anhygoel Fatoumata Kouyaté (sy’n cael ei adnabod fel Djeliguinet yn Gini) a’i grŵp Troupe Djeliguinet.
Ddydd Iau 11 Awst byddwn yn Y Neuadd Lles, Ystradgynlais, o 1yp ar gyfer Diwrnod Dathlu Diwylliant Affricanaidd, lle bydd Fatoumata yn perfformio gyda’r nos am 8 o’r gloch.

Yn y prynhawn mae gŵyl fach o gelfyddydau, diwylliant a bwyd Affricanaidd, sy’n addas i’r teulu cyfan. Mae’r diwrnod yn cynnwys:

  • 1 – 2.30yp – Gweithdy dawns Gorllewin Affrica
  • o 1yp ymlaen (galw mewn) – Gweithdy celf a chrefft ar thema carnifal 
  • 3-4yp – Perfformiad Carnifal Trebiwt (awyr agored) – ‘Dwndwr y Dŵr’ – gan BACA a Rhiannon Mair – Mae BACA (Cymdeithas Celfyddydau a Diwylliant Butetown) yn gwahodd Cymru gyfan i gymryd rhan yng Ngharnifal eiconig Butetown! Motiffau hudolus ac atgofion gwerin o Gymru ac o gwmpas y byd. Stori am ddymuniadau, dewisiadau a chanlyniadau trwy wisgoedd, cerddoriaeth a dawns y Carnifal. Comisiwn ‘OpenOut2022’ gan Gonsortiwm Celfyddydau Awyr Agored Cymru (WOAC) ac Articulture. Cefnogir gan Gyngor Celfyddydau Cymru, Llywodraeth Cymru a’r Loteri Genedlaethol.
  • o 4yp – bwyd o Nigeria ar gael gan Id’s Place
  • 4-5.30yn – Gweithdy drymio djembe
  • 7.15yn – Perfformiad Carnifal Trebiwt (awyr agored), ac yna gorymdaith i’r Brif Neuadd
  • 8pm- Perfformiad cerddoriaeth fyw Fatoumata Kouyaté Djeliguinet
Gallwch brynu tocyn diwrnod cyfan sy’n cynnwys popeth ar wahân i’r bwyd am £15-£18 (plant £5)  neu brynu tocyn cyngerdd gyda’r nos yn unig am £11-£13.

Mae rhywbeth at ddant pawb ac o bob oed yn y digwyddiad hwn, cysylltwch â ni neu’r Neuadd Lles os hoffech ragor o wybodaeth.