Tocynnau ar werth nawr!
https://www.eventbrite.co.uk/e/global-grooves-tickets-425668274267
GWYBODAETH GLOBAL GROOVES:
Lleoliad: Neuadd Bingo Cathays, 36-38 Cathays Terrace, CF24 4HX
Mae GLOBAL GROOVES yn rhan Rhaglen Celfyddydau Byw 2022 Cardiff MADE sydd wedi ei hariannu gan Gyngor Celfyddydau Cymru, gyda’r nod penodol o adlewyrchu a dathlu persbectif rhyngwladol y cymunedau sy’n byw gyda’i gilydd yng Nghaerdydd, drwy greadigrwydd, cerddoriaeth a bwyd. Mae’r artistiaid yn anelu i greu croesbeilliad o draddodiadau a chynulleidfaoedd, gan gyflwyno nifer o arddulliau cerddoriaeth drwy gyfuniad diwylliannol o fewn sîn cymdeithasol.
Y gig hwn yw’r ail ddigwyddiad partneriaeth rhwng yr elusen Oasis a Cardiff MADE i annog cynwysoldeb a mynediad i gynulleidfaoedd newydd trwy ddathliad perfformiad, gan leoli hunaniaeth Caerdydd o fewn persbectif byd-eang.
Rydym wrth ein boddau yn chwarae’n fyw gyda’r triawd Successors of the Mandigue a hefyd Gitân, y cyfuniad Cymreig/Indiaidd gan Stacey Blythe a Rajesh, gyda mwy o artistiaid (Andrew Ogun, Aisha Kigs, a Mirari More) sydd wedi datblygu eu cydweithrediadau cerddorol drwy’r rhaglen Affricerdd, gyda chefnogaeth Tŷ Cerdd. Yn cadw’r hwyl yn mynd rhwng y perfformiadau bydd DJ George Ikamba.
A bydd bwyd byd-eang blasus a chwrw lleol yn danwydd i’r dorf.
Yn addas ar gyfer unigolion 12 oed a hŷn, yng nghwmni oedolyn.
Amserlen:
6.30 (& rhwng setiau) – DJ George Ikamba (DJ Cerddoriaeth Byd)
7.15 – 7.45 pm Gitân (Stacey Blythe a Rajesh) Cymreig / Indiaidd
8.15 – 9pm – (Artistiaid Affricerdd)
9.30- 11pm – Triawd The Successors of the Mandingue (yn cynnwys N’Famady Kouyaté,
Suntou Susso, & Salif Camara)
