Cyhoeddiad Prosiect Newydd
Mae ‘Planting the Seeds’ yn brosiect cyfnod datblygu Cysylltu a Ffynnu wedi’i ariannu gan Gyngor Celfyddydau Cymru, sefydlwyd gan gyfun pump-cryf sy’n archwilio cyfleoedd i rymuso artistiaid Affricanaidd yng Nghymru yn eu datblygiad gyrfa ac wrth hyrwyddo a rhannu eu gwaith a’u traddodiadau diwylliannol â chymunedau amrywiol ledled Cymru. Bydd y prosiect yn ceisio creu rhwydweithiau rhwng artistiaid yng Nghymru, y DU, Ewrop, a chyfandir Affrica i alluogi cydweithrediadau, ymasiadau a llwyfannau sy’n meithrin talent ac arloesedd o fewn y diaspora ac sy’n ennyn diddordeb ystod o gynulleidfaoedd yng Nghymru.
Mae’r prosiect datblygu hwn yn dwyn ynghyd gasgliad sy’n cynnwys pump partner:
- The Successors of the Mandingue (TSOTM)
- Cymdeithas Celfyddydau a Diwylliant Butetown (BACA)
- Almamy Oumar Camara
- Kobenawati
- Neuadd Ogwen
Mae pob un yn rhannu awydd i hyrwyddo a rhannu celfyddydau Affrica, trwy:
- creu cyfleoedd cyflogaeth ystyrlon i artistiaid o Affrica yn eu ffurfiau celf arbenigol,
- dod ag artistiaid gwahanol ynghyd i gydweithio ar brosiectau cerddoriaeth / dawns sy’n galluogi gwell dealltwriaeth draws ddiwylliannol,
- hwyluso addysg ddiwylliannol a chyfnewid trwy ymgysylltu â’r gymuned.
Mae’r grŵp hwn eisiau defnyddio’r cam datblygu hwn i gyd-greu rhaglen uchelgeisiol, a fydd yn ymgysylltu â nifer fawr o artistiaid a grwpiau cymunedol ar eu liwt eu hunain (yn ogystal â chwmnïau a lleoliadau celfyddydau pellach). Yr hyn sy’n dod â ni at ein gilydd yw cariad at gerddoriaeth a diwylliant Gorllewin Affrica, ac angerdd am rannu hyn fel profiad rhyngweithiol, ac awydd i integreiddio ymarfer ac ymarferwyr celfyddydau Affrica yng Nghymru. Os oes gennych ddiddordeb mewn cymryd rhan – cysylltwch â ni!