Cydweithrediad Newydd

🌊 Mae rhywbeth yn y dyfroedd ….

Mae ein prosiect cydweithredu ‘Go Digital’ gyda chefnogaeth Cyngor Prydain Cymru – partneriaeth The Successors of the Mandingue (Cymru) a CIE Fatou Cisse (Senegal) yn dod yn ei flaen yn braf diolch i’n hartistiaid dawns yng Nghymru 🏴󠁧󠁢󠁷󠁬󠁳󠁿: Dominika Rau, Shakeera Ahmun, Krystal Lowe, Matthew Gough; a’n hartistiaid dawns yn Senegal 🇸🇳: Fatou Cisse, Alexandre Garcia, ac Antoine Danfa.

Dancers in Wales and Senegal in two studios 2

Hyd yn hyn rydym wedi cynnal pum sesiwn gweithdy ar-lein 4 awr yn cynnwys saith dawnsiwr (4 yng Nghymru, 3 yn Senegal) yn ystod mis Medi a mis Hydref 2021. Dechreuwyd ar y gwaith gyda rhannu a thrafod arddulliau a chefndiroedd dawns ein gilydd ac ymgymryd â rhywfaint o waith byrfyfyr gan ddefnyddio trac wnaeth N’famady Kouyaté cyfansoddi fel man cychwyn i ddechrau arbrofi a chydweithio gyda’i gilydd. Symudodd y sesiynau ymlaen i wahanol ymarferion a chyd-greu gan ddefnyddio Zoom fel offeryn i gysylltu ar draws cyfandiroedd. Bydd ffilmio ar gyfer y darn olaf sy’n adlewyrchu ein cyfarfyddiadau traethodau ymchwil yn dechrau ar Hydref 20fed.  Gwyliwch 👀 y gofod hwn i gael y wybodaeth ddiweddaraf!

 

 

British Council logo