Successors yn Ŵyl Bwyd a Diod Ryngwladol Caerdydd
Ar ddydd Sadwrn Gorffennaf 2il 2022 daeth The Successors of the Mandingue â’r heulwen a phrofiad cerddoriaeth a dawns ddilys o Orllewin Affrica a ledodd llawenydd anorchfygol yng Ngŵyl Fwyd a Diod Ryngwladol Caerdydd. Y rhythmau traddodiadol a chwaraewyd, gan feistri drymio djembe a doundoun, oedd curiadau calon alawon a chwaraewyd ar offerynnau cysegredig a hudol kora a balafon, a ddaeth yn fyw gan symudiadau dawns ffrwydrol yn syth o Guinea, Conakry. Gweler uchafbwyntiau’r perfformiadau ar y llwyfan yn y Basn Hirgrwn, Roald Dahl Plass, Bae Caerdydd, am 2pm ac eto am 7pm yn y ffilm isod.
Yn cynnwys yr artistiaid canlynol:
N’famady Kouyaté – balafon, llais, a djembe
Mamadou Keita – doundoun & djembe
Suntou Susso – kora, djembe a llais
Salif Camara – dawns a llais
Mwynhewch!