Successors yn yr Eisteddfod a Diwrnod Dathlu Affrica yn Y Neuadd Les Ystradgynlais

Cyrhaeddodd Fatoumata Kouyaté ‘Djeliguinet’ Cymru yn ddiogel ar gyfer cychwyn ein taith Dathliad Cymru-Affrica 2022 a ariannwyd gan Gyngor Celfyddydau Cymru. O fewn 24 awr o lanio roedd Fatoumata yn perfformio i gynulleidfa hudolus yn Eisteddfod 2022.

Yma mae hi’n arddangos sgiliau djembe anhygoel!

Yna ar ddydd Iau 11eg Awst roeddem yn Ystradgynlais yn Y Neuadd Lles am ddydd Dathlu Affrica, lle bu Fatoumata a’n N’famady Kouyaté (ynghyd â gwesteion) yn cynnal gweithdai dawns a djembe i gynulleidfa hynod frwdfrydig a rhyfeddol, a gymerodd ran hyd yn oed yn y tywydd poeth. Cafwyd bwyd o Nigeria, gweithdai crefft i blant, a hyd yn oed perfformiad llwyfan gan Keith (BACA).

Dyrchafol a gwych – Nelly, Abertawe

Bu ein partneriaid draw yn BACA (Cymdeithas Celfyddydau a Diwylliant Butetown) yn arddangos eu perfformiad hyfryd Dwndwr y Dŵr ac wedyn gyda’r nos daeth Fatoumata ‘Djeliguinet’ bennu’r digwyddiad gyda chlec, dawns a gwên gyda pherfformiad yn cynnwys dau ddawnsiwr gwych (Aida Diop a Salif Camara ).

Bywiogi – Tracy, Ystradgynlais

Roedd yn bleser gweld cymaint o bobl leol o Ystradgynlais a thu hwnt yn dod i ymuno â ni i ddathlu dawns a cherddoriaeth Affricanaidd.

Mae’n ardderchog, doedden ni ddim yn gwybod beth i’w ddisgwyl oherwydd ein bod ni’n hŷn ond mae wedi ehangu ein gorwelion, roeddem wrth ein bodd â’r dawnsio a’r bwyd – Bryan a Ruth, Glyn-nedd

Gallwch ddod o hyd i fanylion am weddill taith Gymreig Fatoumata Kouyaté yma.