Cyflwyno aelodau newydd ein tîm!


Dyma ein Haelodau Tîm newydd – Rheolwr Datblygu Busnes a Swyddog Cyfryngau Cymdeithasol!

Rydym wrth ein bodd yn cyhoeddi’r ychwanegiadaudiweddaraf i’n tîm, Paul Fordham ac Emily Agbaso! Mae Paul yn ymuno â ni fel ein Rheolwr Datblygu Busnes, ganddod â 25 mlynedd o brofiad yn y diwydiant cerddoriaeth. Mae Emily yn camu i mewn fel ein Swyddog CyfryngauCymdeithasol, yn barod i lenwi ein presenoldeb ar-lein â chynnwys deniadol, hyrwyddo ein gwaith, a chyrraeddcynulleidfaoedd newydd.

Mae Paul Fordham wedi bod yn ymwneud â chyflwyno cerddoriaeth ers 25 mlynedd gyda phrofiad yn cyffwrdd â bron pob agwedd ar gael cerddoriaeth allan i’r cyhoedd. O ddechreuadau fel DJio mewn clybiau a radio cymunedol yn y 90au symudodd Paul ymlaen i raglennu lleoliadau a theithiau. Arweiniodd ei arbenigedd mewn cerddoriaeth y tu allan i orllewin y byd iddo sefydlu consortia teithiol a sicrhau cytundebau rhaglennu gyda neuaddau cyngerdd mawr, a gwyliau yn ogystal â rheolaeth mewn datblygu cerddoriaeth a theatr. Yn y 2000au sefydlodd ei asiantaeth datblygu cerddoriaeth ei hun i archwilio cerddoriaeth lai adnabyddus fel artistiaid o Cape Verde a Somalia, gan ddod ag artistiaid i’r DU a lleoliadau mor amrywiol â neuaddau pentref a’r Royal Festival Hall. Roedd yn gyfarwyddwr sefydlu Bristol Music Trust ac mae’n falch o fod yn un o’r aelodau bwrdd a benderfynodd ailenwi’r Colston Hall, a adwaenir bellach fel y Bristol Beacon.

Arweiniodd taith Emily Agbaso i Gymru pan oedd hi’n 16 oed, lle darganfu gymuned fywiog a lle i’w alw’n gartref. Dros y blynyddoedd, blodeuodd yr hyn a oedd yn teimlo fel lle unig i ddechrau, heb yn adnabod neb, i gysylltiadau â phobl ac achosion ysbrydoledig, gan danio ei chariad at Gymru. Gyda gradd Meistr mewn Rheoli Twristiaeth a Lletygarwch Rhyngwladol yn ddiweddar ynghyd â gradd mewn Rheolaeth Ryngwladol Marchnata Busnes, mae Emily yn cael ei gyrru gan ei hangerdd dros greu cynnwys deniadol a hyrwyddo profiadau bythgofiadwy.
Mae Emily wrth ei bodd yn helpu i hysbysu cyfuniad Affro Gymreig The Successors of the Mandingue o brofiadau cerddoriaeth ryngweithiol, perfformiadau, gweithdai a phrosiectau cydweithio i bobl yng Nghymru a ledled y byd.