Ali Goolyad

COMISIWN YR ŴYL: DAFYDD IWAN & ALI GOOLYAD

Ali Goolyad festival promo picture
Mae Ali Goolyad yn fardd, actor ac actifydd cymunedol. Wedi’i eni yn Hargeisa, Somaliland, ymfudodd Ali i Gymru yn 1 oed. Mae ei waith blaenorol yn cynnwys ysgrifennu a pherfformio yn De Gabay, (Theatr Genedlaethol Cymru), Border Game, Storm 2, Big Democracy Project (Theatr Genedlaethol Cymru), Borderland (Radio 4), Talking Doorsteps (Roundhouse), Mattan Injustice of a Hanged Man (BBC), a Black and Welsh (BBC Wales). Mae Ali mwynhau cydweithio gydag eraill ac y caru’r fersiwn o ddiwylliant Cymreig y mae’n ei greu.

 

 

 

Dafydd Iwan festival promo pictureFe gyfarfodd Ali a Dafydd ar hap yng nghanol Caerdydd yn y cyfnod cyn Cwpan y Byd (https://fb.watch/nr0aDReD7d/). Y cysylltiad â geiriau ‘Yma o Hyd’ a daniodd ddiddordeb yn y potensial ar gyfer cydweithrediad cerddorol/llafar rhwng y ddau Gymro balch gwahanol iawn yma.

Ym Methesda fe fyddan nhw’n perfformio’n fyw gyda’i gilydd ar y llwyfan ac yn recordio ffilm ar gyfer dangosiad arbennig yn y digwyddiad yng Nghaerdydd gyda gweithdy gair llafar i ddilyn gydag Ali.

 

 

 

 

 

Dathliad banner