Krystal Lowe

Krystal Lowe festival promo pictureMae Krystal S. Lowe yn ddawnsiwr, coreograffydd, ysgrifennwr a chyfarwyddwr o Bermuda sy’n byw yng Nghymru yn perfformio ac yn creu gweithiau theatr ddawns ar gyfer llwyfan, gofodau cyhoeddus, a ffilm i archwilio themâu hunaniaeth groestoriadol, iechyd meddwl a lles, a grymuso’i herio ei hun a chynulleidfaoedd tuag at fewnwelediad a newid cymdeithasol.
Mae Krystal yn frwd dros integreiddio mynediad ac archwilio gwaith amlieithog gyda ffocws penodol ar Iaith Arwyddion Prydain, Cymraeg a Saesneg.
Mae ganddi yrfa helaeth yn perfformio ac yn teithio gyda Ballet Gymru ledled y Deyrnas Unedig, Tsieina a Bermuda; gyda chwmni syrcas Citrus Arts, Ransack Dance, Theatr Iolo, The Successors of the Mandingue, a Laku Neg. Fel artist llawrydd, hunan-gynhyrchu mae hi wedi perfformio i’r National Gallery ar gyfer ‘HOME zero’ a grëwyd gan: Love Ssega, a gomisiynwyd gan Nesta a National Gallery X a Music Theatre Wales Opera for Screen ‘Somehow’.

Aida Diop festival promo pictureCYDWEITHREDIAD DAWNS

KRYSTAL LOWE & AÏDA DIOP

Mae Ballet Gymru yn cwrdd â Ballet Africains gyda’r comisiwn gŵyl arbennig hwn sy’n dod â Krystal Lowe (artist dawns bale a gyfoes yng Nghymru) ac Aïda Diop (prif ddawnsiwr traddodiadol sabar o Senegal) ynghyd. Mae’r ddau wedi bod yn ymwneud â phrosiectau cydweithio dawns ryngwladol wahanol The Successors of the Mandingue o’r blaen. Daeth y prosiectau hynny ag artistiaid dawns traddodiadol Gorllewin Affrica a chyfoes o Senegal a Chymru ynghyd i greu darnau ymasiad trwy Zoom. Rydym yn gyffrous iawn i weld sut mae’r bartneriaeth hon yn datblygu drwy ddod â Krystal ac Aïda a’u harddulliau unigryw at ei gilydd yn yr un ystafell!

Cardiff Dathliad event banner