Bydd Liz Ikamba yn ymuno â ni ar ddydd Sul Mehefin 11eg yng Nghaerdydd ar gyfer perfformiad a gweithdy rhyngweithiol llais a tharo corff.
PERFFORMIAD: Mae’r gantores a’r aml-offerynnwr Prydeinig-Congolaidd (DRC) Liz Ikamba yn cymysgu dylanwadau cerddorol a diwylliannol, gan asio’n ddi-dor y synau cyfoethog a bywiog cerddoriaeth werin y Congo gydag elfennau o Jazz a Soul. Cydweithiodd gyda band deinamig Affro Jazz Llundain Matondology ar EP cyntaf Liz, sy’n arddangosiad o’i dawn unigryw a gweledigaeth greadigol, gyda chaneuon yn siarad yn bennaf o’i phrofiad fel gwraig a threftadaeth gymysg ac artist sy’n byw yn y DU. Canu yn Saesneg a Lingala, mae hi’n plethu stori bersonol a hynafiadol at ei gilydd. Mae pum trac yr EP “Mama’s” yn mynd â ni ar daith yn ôl ac ymlaen rhwng y Congo a’r DU. Mae sain feiddgar a bythol Liz yn plethu yn ei steil unigryw o gerddoriaeth Affro-Soul-Folk gydag elfennau o gerddoriaeth gwerin, cerddoriaeth o darddiad Du, dub-reggae, hip hop, a mwy.
GWEITHDY: Mae Liz yn arweinydd lleisiol a cherddoriaeth gymunedol brofiadol, gyda dros 12 mlynedd o brofiad yn gweithio gyda phobl o gefndiroedd a galluoedd amrywiol, gan ddefnyddio cerddoriaeth a’r celfyddydau ar gyfer cysylltiad cymdeithasol, lles, ac addysg. Bydd y gweithdy’n cynnwys: gemau ac offer rhyngweithiol hwyliog ar gyfer creu cerddoriaeth yn y foment ar y cyd, gan ddefnyddio taro’r corff a llais. Dysgu caneuon o ar draws y byd mewn ieithoedd gwahanol, gan gynnwys Lingala (DR Congo), Xhosa (De Affrica) a Ffrangeg. Mae’r holl weithgareddau wedi’u cynllunio i fagu hyder, annog cysylltiad, cyd-greu a grymuso.
Mae archebu ac amseroedd ar gyfer rhaglenni gweithdai’r ŵyl yn Nghaerdydd nawr ar agor yn y fan hyn: https://www.eventbrite.co.uk/o/dathliad-cymru-affrica-62813930023 gyda gostyngiadau ar gael i ddeiliaid tocynnau’r ŵyl.