Sefydlwyd Cymdeithas Affrica Gogledd Cymru (NWAS) yn 2018, gan grŵp o unigolion angerddol a oedd eisio wneud gwahaniaeth yn eu cymuned leol. Bwriad y gymdeithas yw sicrhau cymdeithas gynhwysol fywiog drwy ganolbwyntio ar faterion cymdeithasol, addysg a busnes sydd o ddiddordeb i Gymru ac Affrica.
Dros y blynyddoedd, mae’r gymdeithas wedi cymryd rhan mewn a chynnal nifer o ddigwyddiadau cymdeithasol-ddiwylliannol, gan ddefnyddio pob cyfle i ledaenu ei neges o “Diversity Makes Society”. Mae NWAS yn gyffrous i arddangos eu talent a rhannu eu neges gyda chynulleidfa ehangach. Maent yn gobeithio y bydd eu perfformiad yn ysbrydoli eraill i ymuno â’u hachos a chael effaith gadarnhaol yn eu cymunedau.